Ap

Mae cynnwys Y Termiadur Addysg ar ar gael am ddim o fewn yr Ap Geiriaduron o’r App Store, Google Play a’r Amazon App Store.

Mae’r Ap Geiriaduron yn eich galluogi i chwilio am dermau addysg safonol a geirfa gyffredinol yn Saesneg ac yn Gymraeg ar eich dyfais iPhone, iPad neu Android hyd yn oed pan nad oes gennych gysylltiad i’r we.

Nodweddion:

  • Chwilio’n sydyn mewn amser real
  • Nodwedd awtogwblhau – does dim rhaid teipio termau’n llawn!
  • Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
  • Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
  • Graffigau ar gyfer Retina Display
  • Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
  • Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
  • Nodwedd manylu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am air
  • Modd chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sy‘n gorffen gyda ‘aith’
  • Cynnwys geiriadur ‘Y Termiadur Addysg’; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
  • Botwm i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.org
  • Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd
  • Cafodd yr ap ei greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o’r Uned Technolegau Iaith.