Canllawiau

1. Sut i chwilio am derm
2. Dangos rhannau ymadrodd
3. Cenedl a lluosogion enwau
4. Cyfatebiaeth berfau ac enwau yn y Gymraeg a’r Saesneg
5. Meini prawf safoni termau
6. Orgraff safonol
7. Deall ystyr term
8. Cyfystyron a chywair iaith
9. Amrywiadau tafodieithol
10. Enwau lleoedd mewn Daearyddiaeth
11. Termau Addysg Grefyddol
12. Dyfynnu termau estron
13. Acronymau

Testun i Lais

1. Sut i chwilio am derm

Teipiwch y term rydych yn chwilio amdano i mewn i’r blwch chwilio yn yr adran “Chwilio am Derm”. Mae modd i chi newid cyfeiriad y geiriadur (o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg) yn hwylus drwy glicio ar enw’r iaith neu ar y term ei hun. Mae modd i chi deipio i mewn ffurf dreigledig ar air Cymraeg, a/neu ferf wedi’i threiglo, a chael y ffurf gysefin sy’n cyfateb i’r term Saesneg yn y geiriadur. Dangosir pob term sy’n cynnwys gair unigol i chi hefyd.

Lle ceir mwy nag un ystyr i air, mae cofnod ar wahân ar gyfer pob ystyr, ac mae dadamwysydd yn dilyn y prifair. Mae’r dadamwysydd yn ddiffiniad byr rhwng cromfachau sy’n dod ar ôl term er mwyn gwahaniaethu rhwng geiriau sydd yn edrych yn debyg i’w gilydd ond yn wahanol o ran ystyr. Mae termau sy’n cynnwys un gair a dadamwysydd wedi’u rhestru cyn termau sy’n cynnwys mwy nag un gair. Er enghraifft, daw ‘asgell (mewn chwaraeon)’, ‘asgell (pysgodyn etc)’ ac ‘asgell (saeth)’ o flaen ‘asgell bectoral’, ‘asgell chwith’, ‘asgell dde’, ‘asgell ddorsal’ ac yn y blaen.

Mae modd i chi hefyd weld rhestr o holl brifeiriau’r geiriadur a sgrolio drwyddynt i glicio ar derm i’w ddewis a gweld y cofnod yn llawn. Mae’r nodwedd hon ar gael yn yr adran “Pori A-Z”.

2. Dangos rhannau ymadrodd

Mae’r geiriadur hwn yn dangos rhannau ymadrodd termau yn Gymraeg pan fônt yn enwau, berfau neu ansoddeiriau, gan fod y wybodaeth honno yn ddefnyddiol i wybod a ddylid treiglo ac ati.   Nid yw’n eu dangos fel arfer gyda geiriau eraill na gyda chymalau ac ymadroddion hirach, ond y mae’n labelu ymadroddion enwol fel enwau oherwydd y gall yr ymadrodd cyfan achosi treiglad, e.e. gyda ‘sbectol haul’ mae ‘sbectol’ yn fenywaidd a ‘haul’ yn wrywaidd, ond labelir yr ymadrodd cyfan yn fenywaidd am ei fod yn treiglo’n feddal unrhyw ansoddeiriau sy’n ei dilyn, h.y. ‘sbectol haul dywyll’ nid ‘sbectol haul tywyll’.

Ni ddangosir rhannau ymadrodd y Saesneg ond pan fo’n rhaid gwahaniaethu rhwng berf ac enw ac ansoddair – yn debyg, felly, i swyddogaeth y diffiniadau a geir weithiau mewn cromfachau yn dilyn term.

3. Cenedl a lluosogion enwau

Mae nifer o eiriau yn Gymraeg sy’n medru bod yn fenywaidd neu’n wrywaidd, gan amrywio gan amlaf yn ôl tafodiaith.   Ceisiwyd dangos y rhain gydag eg/b gan adael i unigolion ddefnyddio’r ffurfiau sy’n swnio’n iawn iddynt hwy.   Fodd bynnag, pan fo gair sy’n eg/b yn codi mewn term sy’n cynnwys mwy nag un gair, dewiswyd dangos un ffurf yn unig, rhag gorfod ailadrodd termau lle ceid treiglad, e.e. gall ‘diweddeb’ fod yn enw gwrywaidd neu fenywaidd.   Pan fo’n enw gwrywaidd ceir y ffurf ‘diweddeb perffaith’ a phan fo’n fenywaidd ceir ffurf ‘diweddeb berffaith’.   Dewiswyd trin ‘diweddeb’ fel enw benywaidd yn Y Termiadur Addysg, felly mae’n peri treiglo’n feddal mewn enwau cyfansawdd.   Dylid derbyn y ffurf wrywaidd hefyd os mai hynny sy’n dod yn naturiol i’r glust, a’r un modd gyda geiriau eraill sy’n amrywio o ran cenedl.

Cofier fodd bynnag fod dyrnaid bach o enwau yn Gymraeg lle ceir ystyr gwahanol yn ôl cenedl y gair.   Er enghraifft, yn Y Termiadur Addysg mae ‘y tôn’ (enw gwrywaidd) yn cael ei gyfieithu fel ‘the tone’ ac mae ‘y dôn’(enw benywaidd) yn cael ei gyfieithu fel ‘the tune’.   Mae ‘y de’ (enw gwrywaidd) yn rhoi ‘the south’ i ni yn Saesneg, ac ‘y dde’ (enw benywaidd) yn rhoi ‘the right [side]’ i ni yn Saesneg

Weithiau hefyd bydd ystyr gwahanol i luosogion enwau er bod yr enw unigol yn edrych yr un fath, e.e. llwyth (=tribe) llusosog: llwythau; llwyth (=load) lluosog: llwythi.

4. Cyfatebiaeth berfau ac enwau yn y Gymraeg a’r Saesneg

Defnyddir berfau a berfenwau yn Gymraeg yn aml lle mae’r Saesneg yn tueddu i ddefnyddio enw.   Er enghraifft, lle ceir ‘do a headstand’ yn Saesneg, mae’r Gymraeg yn fwy tueddol o ddweud ‘sefwch ar eich pen’.   Mae rhai geiriaduron cyfoes Cymraeg yn rhoi berfenw i gyfieithu enw Saesneg er mwyn atgoffa’r Cymro i beidio ag efelychu’r gystrawen Saesneg.   Ond mae adegau pan fo angen enw yn Gymraeg i gyfateb i enw yn Saesneg, yn enwedig gyda rhifolion. Felly, os ceir rhestr o symudiadau ymarfer corff yn nodi sawl gwaith y mae’n rhaid i ddisgybl wneud symudiad arbennig e.e. ‘10 headstands’, gellir defnyddio gair gwneud fel ‘pensafiad’.   Mae Y Termiadur Addysg yn ceisio cadw cyfatebiaeth rhannau ymadrodd hyd y bo modd, ond yn annog cyfieithwyr i gofio bod sawl cyd-destun lle dylid newid enw yn ferfenw wrth gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn cadw cystrawen naturiol Gymraeg.

5. Meini prawf safoni termau

Dilynwyd meini prawf gwrthrychol wrth lunio’r geiriadur termau hwn. Seiliwyd y rhain ar safonau’r Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol (International Standards Organization), gan gynnwys ISO 704 ar Safoni Termau ac ISO 860 ar Harmoneiddio Cysyniadau a Thermau.   Y mae’r rhain yn nodi, ymhlith pethau eraill:

  • dylai term fod yn ieithyddol gywir;
  • dylai adlewyrchu, hyd y gall, nodweddion y cysyniad y mae’n ei gynrychioli;
  • dylai fod yn gryno;
  • dylai fedru esgor ar ffurfiau eraill;
  • dylai un cysyniad gyfateb i un term yn unig.

6. Orgraff safonol

Dilynwyd orgraff Geiriadur Prifysgol Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950-2001) hyd yr oedd modd, ac mae’r geiriadur hwnnw yn ei dro yn dilyn canllawiau Orgraff yr Iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Rhan II, Geirfa 1987). Weithiau mae dewis o sillafiad yn y Gymraeg, gyda’r ddwy ffurf yn cael eu cyfrif yn gywir. Enghraifft o hyn yw project a prosiect. Mewn achosion fel hyn, mater o gysondeb ac arddull tŷ, nid cywirdeb, yw dewis y naill ffurf yn lle’r llall.

O ran orgraff, ceisiwyd cadw at lythrennau’r wyddor Gymraeg, ac felly ‘cilo’ a ‘sinc’ a geir yn y Gymraeg yn Y Termiadur Addysg, ac nid ‘kilo’ a ‘zinc’.   Y mae’r symbolau rhyngwladol wrth gwrs, megis y ‘k’ am ‘cilo’ a’r symbolau am yr elfennau cemegol, yn aros yn ddigyfnewid.   Yr unig eithriadau i hyn yw enwau priod a thermau crefyddol, sy’n cadw’u sillafiad gwreiddiol, neu’r trawslythreniad cydnabyddedig i’r ysgrif Rufeinig os ydynt wedi’u trawslythrennu o ryw ysgrif arall.

7. Deall ystyr term

Mae’n bwysig deall ystyr y termau sy’n cael eu defnyddio. Gall cam-gyfieithu ddigwydd wrth chwilio mewn geiriadur a chael hyd i derm sy’n edrych fel cyfieithiad, ond sydd mewn gwirionedd yn cyfieithu ystyr cwbl wahanol. Felly gall gair megis ‘grain’ yn Saesneg, fod â nifer o ystyron iddo ac nid yr un peth yw ‘a grain of sand’ (gronyn), ‘the grain of wood’ (graen), a ‘grain grown for food’ (grawn).   Weithiau gall dewis yr ystyr anghywir arwain at gamgymeriad difrifol, fel wrth gamddeall ystyr ‘seal’ mewn ymadrodd fel ‘the seal of Edward I’, a’i gyfieithu fel ‘morlo Edward I’, yn hytrach na ‘sêl Edward I’. Y peth pwysicaf i’w gofio felly wrth gyfieithu termau yw na ellir byth gyfieithu gair am air heb ystyried y cysyniad sy’n cael ei fynegi, h.y.

NID

term Saesneg = term Cymraeg

OND YN HYTRACH

term Saesneg = cysyniad = term Cymraeg.

Mae Y Termiadur Addysg yn defnyddio diffiniadau byr mewn cromfachau ar ôl term er mwyn gwahaniaethu rhwng geiriau sy’n edrych yr un fath ond sydd ag ystyron gwahanol iddynt.   Yr enw technegol ar y diffiniadau cryno hyn yw dadamwyswyr. Weithiau fodd bynnag dim ond un ystyr fydd yn Y Termiadur Addysg, a bryd hynny, does dim dadamwysydd wedi’i gynnwys. Mae angen defnyddio synnwyr cyffredin os yw’r cynnig yn Y Termiadur Addysg i weld yn anaddas i’r cyd-destun, a chwilio a oes ystyr arall posib i’r term. Gall geiriadur uniaith Saesneg da sy’n esbonio’r cysyniad roi arweiniad ar wahanol ystyron termau a fydd yn gymorth i’w cyfieithu i’r Gymraeg.

8. Cyfystyron a chywair iaith

Weithiau mae’n anodd iawn dewis rhwng dau neu fwy o dermau am eu bod yn gyfystyron agos. Yn yr iaith bob dydd, mae rhyddid i ddefnyddio amrywiaeth o eiriau sy’n agos o ran ystyr. Fodd bynnag, ceir cyd-destunau technegol lle mae manwl-gywirdeb cysyniadol yn   bwysicach. Yr enw technegol ar y cywair hwn yw ‘iaith at ddibenion arbennig’. Po fwyaf technegol y cyd-destun, mwyaf o ofal sydd ei angen i sicrhau cysondeb y ffurfiau safonol. Mae Y Termiadur Addysg bellach yn rhychwantu ystod eang o bynciau ysgol o oed cynradd hyd at Safon Uwch ac addysg bellach, gan gynnwys pynciau galwedigaethol. Bydd angen mesur o ddoethineb ar ddefnyddwyr i wybod pryd mae’n briodol defnyddio termau technegol a phryd nad oes angen gwneud hynny. Er enghraifft, mae ‘munud’ mewn ystyr dechnegol yn golygu ysbaid benodol o amser (chwedeg eiliad). Wrth siarad yn anffurfiol, fodd bynnag, bydd rhywun yn dweud ‘aros funud’ heb olygu ‘aros union chwedeg eiliad’. Gellid dweud ‘aros ychydig’, ‘aros foment’, ‘aros eiliad’ heb newid ystyr. Mae’n bwysig deall nad oes raid glynu at dermau technegol y tu allan i gywair iaith at ddibenion arbennig, a bod mesur o hyblygrwydd ar gyfer cyd-destunau annhechnegol ac anffurfiol.

Gall fod yn anodd mewn sefyllfa ysgol benderfynu pa mor dechnegol yw cyd-destun arbennig ac, felly, pa mor dechnegol y dylai’r eirfa fod, yn enwedig yn yr ysgol gynradd a gwaelod yr ysgol uwchradd.   Fel rheol gyffredinol, os nad oes angen dysgu’r cysyniad technegol, nid oes angen yr eirfa ychwaith.   Felly, wrth drafod ‘cyflymder’ a ‘buanedd’ (‘velocity’ a ‘speed’) nid oes angen gwahaniaethu rhyngddynt ond yng nghyd-destun technegol gwyddoniaeth a mathemateg.   Nid oes angen newid ‘cyflymder’ yn ‘buanedd’ felly mewn cyd-destunau cyffredinol, annhechnegol.

9. Amrywiadau tafodieithol

Yr unig adeg y ceir eithriad i’r arfer o gynnig un term yn unig yn y Gymraeg ar gyfer term Saesneg yw pan fo gwahaniaeth pendant yn arfer de a gogledd Cymru, e.e. defnyddir ‘gwahadden’ yn ne Cymru a ‘twrch daear’ yn y gogledd am y creadur ‘mole’.   Bryd hynny barnwyd nad oedd yn deg rhoi’r flaenoriaeth i un ardal dros un arall, ac mae’r ddau derm wedi’u cynnwys.   Argymhellir bod y ddau derm yn cael eu cynnwys gyda’i gilydd mewn deunyddiau asesu, ond bod athrawon a disgyblion yn defnyddio’r term sydd yn fwyaf cyfarwydd iddynt hwy.   Nid geiriadur tafodieithol yw hwn, fodd bynnag, a, lle barnwyd bod un ffurf yn ddigon derbyniol i fod yn ffurf safonol, nid aethpwyd ati i gynnwys ffurfiau eraill sydd ar gael yn y gwahanol dafodieithoedd.

10. Enwau lleoedd mewn Daearyddiaeth

Mae enwau lleoedd ac enwau priod yn peri problemau neilltuol o fewn y cwricwlwm ysgol.   Barn athrawon daearyddiaeth ers blynyddoedd yw mai’r ateb gorau yw dilyn y ffurfiau brodorol wrth gyfeirio at enwau lleoedd y tu allan i Gymru, gan ddefnyddio Yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) fel safon. Lle mae’r ffurfiau brodorol wedi’u hysgrifennu mewn gwyddor wahanol i’r ysgrif Rufeinig, mae’r Atlas yn defnyddio trawslythreniad rhyngwladol yr ysgrif Rufeinig ar gyfer yr enwau hynny. Argymhellir parhau i ddilyn y safon hon wrth ddysgu daearyddiaeth fel pwnc.

Ond mewn cyd-destun cyffredin y tu allan i gylchoedd defnydd technegol gellir dilyn arfer traddodiadol y Gymraeg.   Er enghraifft, defnyddir y ffurf Eidalaidd ‘Roma’ ar brifddinas yr Eidal yn yr Atlas Cymraeg Newydd ac, yng nghyd-destun technegol daearyddol, dylid defnyddio’r ffurf honno.   Fodd bynnag, wrth sôn am y ddinas yn gyffredinol, dyweder mewn cyd-destun hanesyddol neu gerddorol, mae’n dal yn dderbyniol cyfeirio at y ddinas fel ‘Rhufain’.

11. Termau Addysg Grefyddol

Mae problem arbennig hefyd gydag enwau sy’n perthyn i grefyddau ar wahân i Gristnogaeth lle mae’r iaith wreiddiol yn defnyddio ysgrif wahanol i’r ysgrif Rufeinig.   Mae gan rai o’r ysgrifau hyn fwy o lythrennau na’r ysgrif Rufeinig, a rhaid defnyddio mwy nag un llythyren yn yr ysgrif Rufeinig i’w cyfleu.   Er enghraifft, ceir deugain llythyren yn y Gurumukhi, ysgrif sanctaidd y Sikhiaid, a thrawslythrennir un llythyren yn kh, un arall yn k, un arall yn c ac un arall yn ch.    Ni cheir y llythrennau ‘k’, ‘q’, ‘v’ a ‘x’ yn y wyddor Gymraeg, ond mae’r Gymraeg yn dilyn y dull rhyngwladol o Rufeineiddio ysgrifau eraill (er enghraifft ISO 233 ar drawslythrennu llythrennau Arabaidd i lythrennau Rhufeinig).   Gellir cymharu hyn â’r ffordd y mae’r Gymraeg yn derbyn enwau priod sy’n cynnwys y llythrennau hyn, er enghraifft, Keller, Quentin a Vivian.   Byddai’n gamarweiniol rhoi’r llythyren ‘c’ yn lle’r llythyren ‘k’ yn Gymraeg wrth sôn, er enghraifft, am bum ‘k’ sanctaidd y Sikhiaid.   Ni ddylid ystyried y termau hyn sydd wedi’u benthyg o ieithoedd eraill yn dermau Saesneg, ond yn hytrach fel dyfyniadau o ieithoedd eraill wedi’u trawslythrennu i ysgrif Rufeinig.   Ym 1994 cyhoeddwyd Religious Education: Glossary of Terms gan yr Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu Ysgolion (ACAY) gyda sêl bendith y gwahanol gymunedau crefyddol, a cheir ynddo’r trawslythreniadau derbyniol o eirfa sy’n perthyn i’r gwahanol grefyddau.

Fodd bynnag, fel yn achos enwau lleoedd mewn Daearyddiaeth, mewn cyd-destunau cyffredinol, y tu allan i gyfyngiadau defnydd technegol, gellir dilyn arfer traddodiadol y Gymraeg. Er enghraifft, mewn Addysg Grefyddol, dylid cyfeirio at sefydlydd Islam fel ‘Muhammed’, ond mewn cyd-destun cyffredinol, gellir defnyddio’r ffurf Gymraeg draddodiadol ‘Mohamed’.

12. Dyfynnu termau estron

Mae’n arferol dyfynnu term o iaith arall heb ei gyfieithu i’r Gymraeg mewn cyd-destunau eraill ar wahân i addysg grefyddol.   Mae hyn yn gyffredin mewn cerddoriaeth, er enghraifft, lle defnyddir termau Eidaleg megis ‘appoggiatura’ neu Almaeneg megis ‘Lied’ yn Gymraeg.   Yr arfer traddodiadol yn Gymraeg yw defnyddio print italig gyda geiriau estron i ddangos nad geiriau Cymraeg mohonynt.   Fodd bynnag, nid oes ffontiau italig ar gael bob amser: gall fod traethawd wedi’i ysgrifennu mewn llawysgrifen, neu gall gwasg fod eisoes wedi clustnodi’r ffont italig at ryw ddiben arall, megis teitlau cyhoeddiadau.   Nid yw Y Termiadur Addysg yn defnyddio print italig ar gyfer geiriau estron.

13. Acronymau

Mae acronymau yn peri problem arbennig yn Gymraeg, ym myd addysg fel mewn llawer maes arall, oherwydd eu dieithrwch, yr angen i dreiglo a hefyd oherwydd bod y llythrennau ‘C’ a ‘G’ yn codi mor aml a llafariaid yn llawer llai aml.   Oherwydd hyn, ni ddylid cyfieithu acronymau i’r Gymraeg, ac eithrio’r dyrnaid enghreifftiau, megis CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru) a WJEC (Welsh Joint Education Committee), lle mae’r acronym Cymraeg wedi hen blwyfo, neu’r eithriadau prinnach byth (megis ACCAC) lle defnyddir yr acronym Cymraeg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr arfer naturiol yn Gymraeg yw defnyddio enw’r corff yn llawn y tro cyntaf mewn sgwrs neu ddogfen ac wedyn gyfeirio at ‘Yr Awdurdod’, ‘y Gymdeithas’ ac ati os yw hi’n glir pa awdurdod, cymdeithas, corff, undeb ac ati sydd dan sylw.

Testun i Lais

Eiddo’r RNIB yw’r llais synthetig a ddefnyddir ar y wefan hon. Cafodd ei datblygu ar eu cyfer gan gwmni Ivona (sydd bellach yn rhan o Amazon), gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac â chymorth adnoddau ymchwil testun-i-leferydd Cymraeg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch osod y llais ar eich cyfrifiadur Windows drwy gysylltu ag RNIB am gopi (nid oes yn rhaid talu ar gyfer defnydd anfasnachol). Anfonwch e-bost at cymru@rnib.org.uk.

  • Term ar Hap

      ymbelydrol ans
      radioactive